Y nesaf i ymgartrefu yno oedd William Williams (1746-1781), wyr i Thomas Williams. Roedd yn wr cefnog wedi gwneud ei ffortiwn ar longau'r East India Company. Yr arian hwnnw medd rhai a dalodd am wyneb Siorsaidd presennol y ty, ond mae steil y gwaith hwnnw'n awgrymu mai rhwng 1755 a 60 y gwnaed y gwaith. Ond bachgen ifanc fuasai William Williams bryd hynny. Mae'n fwy tebygol mai Robert Williams, tad William, a anwyd yn 1705 a wnaeth y newidiadau. Ychydig iawn a wyddys am y dyn hwnnw, ond mae crandrwydd y ty yn nodweddiadol o statws dyn â'r fath gyfoeth. Yn 1783 yn dilyn marwolaeth merch ac aeres William Williams gwerthodd gwraig William y ty i John Goodman o Borthamel, Môn.
Erbyn i Edmund Hyde Hall ymweld â Thy Newydd yn 1809/10 tenantiaid oedd yn byw yno, ac roedd yr adeilad meddai 'mewn cyflwr gwael iawn'. Yn 1856 gwerthwyd y stad unwaith eto gan ei ymgorffori'n rhan o Stad Broom Hall.
Yn 1943, prynodd Lloyd George Ty Newydd i'w ddefnyddio fel ei brif gartref (yn Llanystumdwy y magwyd o) gan gomisiynu Clough Williams-Ellis, pensaer Portmeirion, i atgyweirio ac ymestyn y ty. Ond ni chafodd y cyn-Brif Weinidog weld diwedd y gwaith gan y bu farw yn Nhy Newydd ar Fawrth 26ain, 1945.
Yn ystod 2005 a misoedd cyntaf 2006 cwblhawyd y gwaith mwyaf diweddar sef gosod Ystafell Wydr ar dalcen y ty ac atgyweiriwyd sawl agwedd o'r tu mewn. Pensaer y gwaith oedd Frances Voelker.
Cliciwch yma i ddarllen mwy am y ty a'r llety a gynigir erbyn hyn.
|