Header image  
CYRSIAU YSGRIFENNU PRESWYL  
   Ty Newydd . Llanystumdwy . Cricieth . Gwynedd LL52 0LW . 01766 522811 . post@tynewydd.org
  Mae Ty Newydd yn cydweithio â'r Academi
   
 
 
 

 
 
Cyrsiau i Ysgolion (cliciwch yma am gyrsiau Cyrsiau Chweched Dosbarth)
.
Mae Ty Newydd yn cynnig cyrsiau ysgrifennu preswyl i grwpiau ysgol. Fel arfer mae'r cyrsiau hyn yn 4 diwrnod o hyd, o gyda'r nos nos Lun tan bore Sadwrn. maent yn dilyn yr un patrwm a gyrsiau oedolion. Bydd dau diwtor profiadol ym maes dysgu ysgrifennu creadigol yn tiwtora drwy'r wythnos a siaradwr gwadd yn perfformio ar y nos Fercher. Cyrsiau yw'r rhain ar gyfer 16 disgybl a 2 athro/athrawes.

Mae pawb yn aros yn Nhy Newydd drwy gydol y cwrs mewn awyrgylch anffurfiol a hamddenol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud eu brecwast a'u cinio eu hunain ac fel rhan o dim yn helpu i baratoi un pryd bwyd gyda'r nos ar gyfer gweddill y criw.

Mae'r cwrs yn cynnwys sesiynau grwp, tiwtora unigol, darlleniadau ac amser i'r disgyblion i weithio ar eu pennau eu hunain. Mae'r profiad o dreulio amser mewn lle fel Ty Newydd a chael y cyfle i ganolwyntio ar ddim ond ygrifennu yn werthfawr tu hwnt nid yn unig o safbwynt datblygiad sgiliau ysgrifennu'r disgyblion a'u gallu i gyfleu eu teimladau ar bapur, ond hefyd o safbwynt datblygu eu sgiliau cymdeithasol.

Rydym yn creu cyrsiau yn arbennig ar gyfer anghenion yr ysgol. Rydym yn trafod cynnwys y cwrs o flaen llaw ac yn trafod y darpar diwtoriaid gyda'r athrawon.

Mae'n costio £230 am bob disgybl a daw'r athrawon am ddim.

Er ein bod yn awgrymu cyrsiau 4 diwrnod gan fod mwy o amser i ganolbwyntio ar ddatblygu sgiliau'r disgyblion, mae modd i ni drefnu cyrsiau byrrach. Mae mwy o wybodaeth, ynghyd ag esiampl o amserlen cwrs a DVD ar gael trwy gysylltu â ni. Mae modd dadlwytho fersiwn PDF o'n taflen 'Hawl i Swgennu' trwy glicio ar y llun isod:

.

Mae Ty Newydd yn gallu rhoi cymorth ariannol i'r ysgolion neu unigolion hynny na fyddai'n gallu ffordd i dod i Dy Newydd oherwydd cyfyngiadau ariannol. Gallwn gynnig y cymorth hwn drwy grant hael gan Ymddiriedolaeth WHSmith. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â ni.

.
 
 
 
             
Mae Ymddiriedolaeth Taliesin Cyf., sy'n rhedeg Ty Newydd, yn Gwmni Cyfyngedig trwy Warant (rhif: 2640639) gyda statws Elusen (rhif: 1004108)