Ty Newydd
   Ty Newydd . Llanystumdwy . Cricieth . Gwynedd LL52 0LW . 01766 522811 . post@tynewydd.org
  Mae Ty Newydd yn cydweithio â'r Academi
   
 
 
 
 

 
CYFARWYDDWR DATBLYGU’R RHAGLEN

Mae Tŷ Newydd yn chwilio am Y person sy’n mynd i yrru ei Raglen Gymraeg ymlaen.

Bydd y person hwn yn derbyn cyfrifoldeb am raglenni cyffrous a dyfeisgar o gyrsiau a gweithgareddau fydd yn anelu at ysbrydoli creadigrwydd rhwng ysgrifennu creadigol ym mhob ffurf â cherddoriaeth, y celfyddydau gweledol, dawns a’r theatr.   Bydd ef neu hi yn gweithio hefyd gydag amrywiaeth o grwpiau yn cynnwys grwpiau darllen, ysgrifennu mewn gofal iechyd, ysgrifennu ar gyfer busnes ynghyd â chyfieithiadau llenyddol mewn sawl iaith. 

Gall rhai o’r sgiliau y byddwn yn chwilio amdanynt gynnwys:

Cariad at, a gwybodaeth am y byd celfyddydol yng Nghymru, gwaith tîm ac arweinyddaeth brwdfrydig, y weledigaeth i greu partneriaethau ar draws y celfyddydau aml-gyfryngol a’r meysydd proffesiynol ynghyd ag awydd dybryd i gynnwys cynifer o bobl ag sy’n bosibl yn ein gweithgareddau a defnyddio pob cyfrwng posibl i sicrhau hynny.

Mae’n bosibl y bydd gennych sgiliau eraill i’w cynnig – cysylltwch â ni.

Tŷ Newydd, Llanystumdwy, Cricieth, Gwynedd. LL52 0LW.

Ffôn: 01766 522811   Ffacs: 01766 523095
post@tynewydd.org


 

 

 
   

 

 
       
Mae Ymddiriedolaeth Taliesin Cyf., sy'n rhedeg Ty Newydd, yn Gwmni Cyfyngedig trwy Warant (rhif: 2640639) gyda statws Elusen (rhif: 1004108)