Mae gan Dy Newydd gyrsiau penodol ar gyfer beirdd, nofelwyr, sgriptwyr, dramodwyr ac eraill yn ogystal â chyrsiau mwy cyffredinol. Mae yna gyrsiau Dechrau Ysgrifennu ar gyfer y rhai di-brofiad yn ogystal â chyrsiau ar gyfer hen lawiau. Cyrsiau penwythnos yw'r mwyafrif o'r cyrsiau Cymraeg - yn dechrau gyda swper nos Wener ac yn gorffen bnawn Sul. Mae staff Ty Newydd bob tro'n barod i drafod cynnwys y cyrsiau Cymraeg i sicrhau bod y cwrs hwnnw'n addas ar eich cyfer. Gellir trafod y cyrsiau Saesneg gyda Sally Baker, Cyfarwyddwr Gweithredol y ganolfan.
Rhai o gyrsiau gwanwyn 2008
Ebrill 4-6 Sgwennu Comedi - Mei Jones a Tudur Owen
Ebrill 18-20 Magu Hyder - Mererid Hopwood a Bethan Gwanas
|