Yn ystod cyfarfod y Pwyllgor Aelodau yn 2010, cytunwyd ar faen prawf newydd o fewn yr Academi. Yn flaenorol, awduron yn unig a gaiff fod yn Aelodau ac yn Gymrodyr o’r Academi fel arwydd o gydnabyddiaeth am eu cyfraniad i lenyddiaeth Cymru. Mae trydydd maen prawf wedi’i gyflwyno erbyn hyn ac yn cael ei gynnig i rai nad ydynt o reidrwydd yn awduron ond sydd yn hytrach wedi cyfrannu’n eithriadol i ddiwylliant llenyddol Cymru.
Roedd Pwyllgor Aelodau’r Academi o’r farn fod Sally Baker, Cyfarwyddwr Gweithredol Tŷ Newydd, sef Y Ganolfan Ysgrifennu Genedlaethol, yn haeddu’r fraint hon. Ym 1989, chwaraeodd Sally rôl flaenllaw wrth sefydlu Tŷ Newydd, sydd erbyn hyn yn fan cyfarfod i awduron o bob math i ddatblygu eu sgiliau.
Yn dilyn y cinio i ddathlu 50 mlwyddiant sefydlu Yr Academi Gymreig , a gynhaliwyd yng Ngwesty’r Conrah, Aberystwyth fis Mawrth 2010 gyda Llywydd yr Academi Bobi Jones, cynhaliwyd cinio iaith Saesneg yng Ngwesty’r Park Plaza, Caerdydd nos Iau 24 Chwefror 2011. Anrhydeddwyd Sally yn ystod y cinio hwn, ac roedd yr Academi'n cyhoeddi enw pedwar Cymrawd Saesneg newydd, gyda dau ohonynt wedi cytuno i fod yn siaradwyr gwadd ar y noson. Ewch i wefan yr Academi am y manylion www.academi.org