Header image  
CYRSIAU YSGRIFENNU PRESWYL  
   Ty Newydd . Llanystumdwy . Cricieth . Gwynedd LL52 0LW . 01766 522811 . post@tynewydd.org
  Mae Ty Newydd yn cydweithio â'r Academi
   
 
 
 

 
 
Newyddion

Mae Canolfan Tŷ Newydd wedi cydweithio ar sawl prosiect gydag Ysgol Llanystumdwy ac yn cefnogi'r ymgyrch i gadw'r ysgol yn agored.
www.arbedllanystumdwy.com

-----------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Hysbyseb am swydd yn Nhŷ Newydd

Mae Tŷ Newydd yn awyddus i benodi, i fyw ar y safle

RHEOLWR CANOLFAN
Swydd llawn amser £17,000
37 awr yr wythnos ynghyd ag oriau ar alwad

neu

RHEOLWYR CANOLFAN
2 swydd rhan amser £20,000 mewn cyfanswm
50 awr yr wythnos i’w rhannu

ynghyd â llety di-rent, gwres, golau a dŵr (gwerth oddeutu £6,000)

I weld manylion y swydd cliciwch yma.

I weld strwythur staffio Tŷ Newydd cliciwch yma.

Dylai ceisiadau gael eu cyflwyno mewn ysgrifen gyda c.v. ynghyd ag enwau a chyfeiriadau dau ganolwr, gan nodi ‘Cais am Swydd/Cyfrinachol’ ar yr amlen, a’u hanfon at: Sally Baker, Cyfarwyddwr Gweithredol, Tŷ Newydd, Llanystumdwy, Cricieth, Gwynedd. LL52 0LW

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Mai 30ain, 2008

01766 522811     post@tynewydd.org
-------------------------------------------------------------------------------------------------------------

2 Swydd wag gyda'r Academi

Swyddog Llenyddiaeth

i ymuno a thîm prysur yr Academi ym Mae Caerdydd

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am brosiectau llenyddol ac am ddatblygu llenyddiaeth Gymraeg ledled Cymru. Bydd rhai o’r cyfrifoldebau’n cynnwys hyrwyddo gwobr Llyfr y Flwyddyn, gofalu ar ôl y wefan a threfnu digwyddiadau llenyddol yn y ddwy iaith.

Cyflog: £16,000 – £18,000

Rhinweddau Angenrheidiol:

• Y gallu i gyfathrebu’n ardderchog yn llafar ac ysgrifenedig yn y Gymraeg a Saesneg
• Dealltwriaeth o ddiwylliant Gymraeg a Chymreig
• Y gallu i drefnu a marchnata yn effeithiol
• Trwydded yrru lân a defnydd o gar
• Y gallu i weithio’n effeithiol mewn swyddfa brysur, ac fel aelod o dîm
• Y gallu i weithio dan bwysau
• Dealltwriaeth o becynnau cyfrifiadurol, megis Excel a Word

Cynorthwy-ydd Gweinyddol rhan amser

(18.5 oriau yr wythnos )

i ymuno a thîm prysur yr Academi ym Mae Caerdydd ac i weithio rhan amser bob prynhawn

Cyflog: £7,500

Rhinweddau angenrheidiol:

• Y gallu i gyfathrebu’n ardderchog yn llafar ac ysgrifenedig yn y Gymraeg a Saesneg
• Sgiliau trefnu effeithiol
• Dealltwriaeth o ddiwylliant Gymraeg a Chymreig
• Y gallu i weithio’n effeithiol mewn swyddfa brysur, ac fel aelod o dîm
• Y gallu i weithio dan bwysau
• Dealltwriaeth o becynnau cyfrifiaduriol, megis Excel a Word.

Mae rhai o gyfrifoldebau’r swydd yn cynnwys:

• Diweddaru gwybodaeth ar y wefan
• Rheoli systemau ffeilio’r swyddfa
• Rheoli gwybodaeth ar gyfer Pwyllgor Aelodau’r Academi
• Delio gyda phost allannol a mewnol
• Cefnogaeth cyffredinol i’r staff

Gall y rhestrau hyn newid

Dylai ymgeiswyr anfon CV llawn, llythyr cais ac enw dau ganolwr, erbyn 16 Mai 2008 at:

Academi
Prif Weithredwr: Peter Finch
Tŷ Mount Stuart, Sgwâr Mount Stuart,
Caerdydd, CF10 5FQ
ffôn: 029 2047 2266  ffacs: 029 2049 2930
post@academi.org  www.academi.org

Cyfweliadau: 21 Mai 2008

Mae’r Academi’n gweithio mewn partneriaeth â Chanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd.
Noddir yr Academi gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru.

 




 

 


 
 
             
Mae Ymddiriedolaeth Taliesin Cyf., sy'n rhedeg Ty Newydd, yn Gwmni Cyfyngedig trwy Warant (rhif: 2640639) gyda statws Elusen (rhif: 1004108)