Ty Newydd
   Ty Newydd . Llanystumdwy . Cricieth . Gwynedd LL52 0LW . 01766 522811 . tynewydd@llenyddiaethcymru.org
  Mae Tŷ Newydd yn rhan o Lenyddiaeth Cymru.
   
 
 
 

 

 

LLÊN ER LLES


Cefnogir y prosiect hwn gan yr “Esmée Fairbairn Foundation”

Cyswllt: Alys Conran (Rheolwr Prosiect) 01766 523 737 alys@tynewydd.org

Mae llên yn gallu bod yn ffordd o gynnig llais i bobl, a chyfrwng hunan fynegiant. Gall sgwennu a darllen yn greadigol wella lles meddyliol, a gwella dealltwriaeth a llythrenedd emosiynol. Mae Tŷ Newydd yn anelu felly i fod ar flaen y gad wrth ddatblygu’r defnydd o ysgrifennu creadigol a darllen mewn iechyd a gofal.

 

PROSIECTAU ARBENNIG

Prosiect Gŵyl Gwanwyn

Mae Tŷ Newydd yn gweithio hefo Gŵyl Gwanwyn, sef gwyl lenyddol i bobl hŷn. Byddem yn cynnal cwrs arbennig i bobl hŷn yn Nhŷ Newydd, gan anelu’r cwrs yn arbennig at bobl sydd yn dueddol o deimlo’n ynysig, neu’n bell o weithgareddau cymdeithasol a llenyddol. Bydd y bobl sy’n mynychu’r cwrs yn cael eu hannog a’u cefnogi i ysgrifennu sgriptiau sy’n herio ystradebau a rhagfarn. Bydd y sgriptiau yn cael  eu perfformio’n ddiweddarach fel rhan o’r wŷl.

Prosiect Dalen Newydd

Mae Tŷ Newydd yn gweithio i ddatblygu grwpiau darllen yn uchel sydd yn annog pobl i fwynhau straeon a llyfrau a straeon fel ffyrdd i ddod i derfyn a’r pethau da a drwg sy’n codi mewn bywyd.   
                                               
Grwpiau Ysgrifennu er Lles yn Nhŷ Newydd

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth i ddatblygu’r grwpiau hyn. Manylion i ddilyn.

Cyrsiau Llên er Lles yn Nhŷ Newydd

‘Writing in Health and Social Care’
‘Writing Oasis’

 


 
           
Mae Ymddiriedolaeth Taliesin Cyf., sy'n rhedeg Ty Newydd, yn Gwmni Cyfyngedig trwy Warant (rhif: 2640639) gyda statws Elusen (rhif: 1004108)