| Wedi'i ariannu gan Academi
Dyma’r wyl gyntaf ar ôl i’r Ganolfan Ysgrifennu Genedlaethol ailagor yn dilyn y gwaith adnewyddu ac eleni mae’r wyl yn cael ei chynnal yn yr haf. Dyma gyfle i fwynhau’r lleoliad gwych yn Eifionydd a byddwn yn cymeryd llawn fantais o hyn gyda theithiau cerdded, cyfle i ymweld â phentref Portmeirion, a phnawn i’r teulu yng ngerddi Ty Newydd. Mae yna fwyd a cherddoriaeth a chelf yn yr wyl ond yn fwy na dim mae yna eiriau, geiriau gan feirdd, nofelwyr, gohebwyr a gwleidyddion, a chyfle i bawb o bob oed eu mwynhau – o storïau gan bypedau Cwmni Cortyn i gerddi Mererid Hopwood a Carol Ann Duffy. Mae yna hyd yn oed barti â ninnau’n dathlu pen-blwydd Gillian Clarke yn 70.
Cliciwch ar y llun uchod i ddadlwytho copi PDF o'r Rhaglen neu cliciwch ar 'gwybod mwy..' wrth yr eitemau isod i wybod mwy am bob digwyddiad:
Nos Wener , Mehefin 8fed
NOSON O GERDDORIAETH yng nghwmni Gwyneth Glyn a Gwilym Morys
Gwesty’r Marine, Cricieth, 9 p.m. £3 gwybod mwy..
Dydd Sadwrn, Mehefin 9fed
GWEITHDY CYWYDD gyda’r Prifardd Tudur Dylan Jones
Ty Newydd, 10:00 am, £4/£3 gwybod mwy..
Clwb Darllen gyda Gwen Pritchard Jones
Gwesty’r Marine Hotel, Cricieth. 5:00 pm, £5/£3 gwybod mwy..
AR ALWAD Y CORN GWLAD – Jon Gower yn holi tair o ferched sydd wedi ennill prif
wobrau yr Eisteddfod Genedlaethol:
Eigra Lewis Roberts, Mererid Hopwood ac Angharad Price.
Gwesty’r Marine Hotel, Cricieth. 2:30 pm, £5/£3 gwybod mwy..
PENCERDD TY NEWYDD 9 o feirdd yn cystadlu am y teitl
Gwesty’r Marine Hotel, Cricieth. 7:30 pm, £5 gwybod mwy..
Dydd Sul, Mehefin 10fed
TAITH GERDDED yn cychwyn o Dy Newydd
Ty Newydd, 9:30 am, £3 yr un gwybod mwy..
CYMRU, LLOEGR A LLANRWST - yn Ewrop
darnau o hunangofiant anghyhoed Yr Argwydd Dafydd Elis-Thomas.
Gwesty Mynydd Ednyfed, Cricieth, 12:30 pm, £17.50 gwybod mwy..
HWYL YR WYL
Prynhawn i'r teulu oll gyda Gwyneth Glyn, Daniel Morden, Cwmni Cortyn a Newfolks
darnau o hunangofiant anghyhoeddedig Yr Argwydd Dafydd Elis-Thomas.
Ty Newydd, Llanystumdwy, 2:30pm £5 i oedolion, plant
am ddim (mae’r pris yn cynnwys te
bach) gwybod mwy..
|