Header image  
CYRSIAU YSGRIFENNU PRESWYL  
   Ty Newydd . Llanystumdwy . Cricieth . Gwynedd LL52 0LW . 01766 522811 . post@tynewydd.org
  Mae Ty Newydd yn cydweithio â'r Academi
   
 
 
 

 
 
Encil

Yn ogystal â dod i Dy Newydd ar gwrs gallwch ddod ar encil. Bydd sgwenwyr eraill yn aros yn y ty a byddwch yn rhannu pryd bwyd fin nos.

Cyfle i ddianc o fywyd bob dydd am ychydig ddyddiau a chanolbwyntio ar eich sgwennu neu’ch gwaith ymchwil, neu hyd yn oed wneud dim mwy na darllen ac ymlacio. A pha well lle i wneud hyn na’r tŷ hynafol yma â’i gyfleusterau newydd a hynny ynghanol tawelwch Eifionydd? Nid cwrs yw encil, nid oes tiwtoriaid, ond bydd staff Ty Newydd yn gofalu amdanoch. Bydd pawb yn cael ystafell ei hun a bydd cyfle i gymdeithasu efo eraill tra’n cydfwyta pryd gyda’r nos.

MAI

Dydd Lun 26 – Dydd Sadwrn 31 - £330

 


Afon Fach
TUTOR2










Mae hefyd yn bosib ar rhai adegau o'r flwyddyn llogi Afon Fach, bwthyn dwy lofft ar safle Ty Newydd er mwyn cael llonydd a heddwch i sgwennu.

Cysylltwch â ni am fwy o fanylion.



 


 
 
             
Mae Ymddiriedolaeth Taliesin Cyf., sy'n rhedeg Ty Newydd, yn Gwmni Cyfyngedig trwy Warant (rhif: 2640639) gyda statws Elusen (rhif: 1004108)