Grŵp Darllen Gwahanol
gydag Aled Jones Williams
Byddwn yn darllen testunau yn tynnu oddi ar brofiadau’n bywydau. Nid dim ond darllen er mwynhad y byddwn – er fy mod yn gobeithio y bydd hynny’n wir hefyd! – ond mae’n bosibl y bydd rhai darnau o lyfrau yn cydio yn rhywbeth o brofiadau eich bywyd a byddwch yn awyddus i edrych arnynt yn fanylach. Efallai nad ydyw mor glir pam yr ydych yn hoffi neu ddim yn hoffi rhyw ddarn ond eich bod yn dewis brwydro hefo fo. Gall hyn fod yn ‘ddolen’ i ddewis rhywun arall o ddarn o fewn y gwaith fel y down yn gymuned o ddarllenwyr ac nid dim ond grŵp sy’n siarad am lenyddiaeth.
Byddwn yn anelu at ddarganfod sut y gall llenyddiaeth eich newid a rhoi dyfnder i’ch bywyd.
Darllenwch y testunau ymlaenllaw gan farcio’r darnau sy’n apelio atoch am unrhyw reswm ynghyd â’r darnau nad ydych yn hoff ohonynt neu’n teimlo eu bod yn ddyrys.
Dyma’r testunau y byddwn yn eu darllen:
Medi 21ain
Gŵr Pen y Bryn - E. Tegla Davies
Medi 28ain
Traed Mewn Cyffion - Kate Roberts
Hydref 12fed
Synfyfyrion - T.H. Parry Williams
Hydref 19eg
Tri Diwrnod ac Angladd - John Gwilym Jones
Hydref 26ain
Si Hei Lwli - Angharad Tomos
Ceir nifer o argraffiadau ail-law o’r rhain ar Amazon. Gellir cael copïau o’ch llyfrgell leol hefyd.
Lleoliad: Tŷ Newydd, Llanystumdwy, Cricieth, Gwynedd LL52 0LW.
Amser: Bob nos Fercher rhwng 7– 9 o’r gloch. Medi 21,28, Hydref 5, 12, 19
Pris: Am Ddim
Please note: This is a Welsh language Reading Group.
I ymuno â’r grŵp (a gyfyngir i 12) neu am wybodaeth bellach cysylltwch â :
Tŷ Newydd: Y Ganolfan Ysgrifennu Genedlaethol, Llanystumdwy, Cricieth, Gwynedd. LL52 0LW.
01766 522811 tynewydd@llenyddiaethcymru.org
Prosiect y Celfyddydau mewn Iechyd a Lles
Gyda chefnogaeth Cyngor Gwynedd
|