Medi 7 – 12 . Menna Elfyn a Mary Lloyd Jones
I'r rhai sy'n caru asiad y celfyddydau mae hwn yn gwrs fydd yn archwilio ffurf a lliw, gair a delwedd. Wedi ei gynllunio ar gyfer dechreuwyr neu'r beirdd a'r arlunwyr mwy profiadol mae'n gyfle i ysgrifennu a pheintio ynghanol tirlun dramatig Cymru. Ers yr 80au, pryd y buont yn gymdogion am gyfnod, mae Mary a Menna wedi cydweithio efo'i gilydd i greu gwaith newydd. Dyma wythnos i ddathlu egni creadigol awduron ac arlunwyr ynghyd â chwilio am ffyrdd newydd i ysgrifennu a pheintio'r byd o’r newydd.
Menna Elfyn

Bardd, awdur dros 20 o lyfrau, hefyd yn ddramodydd a libretydd ac wedi ysgrifennu wyth drama lwyfan, pum drama radio yn ogystal â dwy ar gyfer y teledu. Yn 2007, cyhoeddodd Perffaith Nam/Perfect Blemish (Bloodaxe Books) ac roedd yn un o'r 30 o feirdd a ddewiswyd gan Bloodaxe i ymddangos yn In Person (2008). Dyfarnwyd iddi Wobr Cymru Greadigol gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn 2008 ar gyfer sgrifennu am gwsg. Mae'n Gymrawd Llenyddol Brenhinol ym Mhrifysgol Abertawe a Chyfarwyddwr y Cwrs MA Ysgrifennu Creadigol yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin.
Mary Lloyd Jones

Mae Mary Lloyd Jones yn artist Cymreig rhyngwladol ei bri. Wedi ei hysbrydoli gan amlinellau creigiog ac eang-diroedd ei gwlad genedigol, mae wedi arddangos mewn orielau cyn belled â Berlin ac Efrog Newydd. Mae'n fwy adnabyddus fel un sy'n peintio tirluniau haniaethol ond yn aml yn defnyddio geiriau a siapiau llythrennau yn ei gwaith ac yn mwynhau cydweithio gyda beirdd. Mae dyfyniad gan Dylan Thomas The Colour of Saying yn deitl i lyfr am Mary a gyhoeddwyd gan Wasg Gomer yn 2001. Dyfarnwyd iddi Ddoethuriaeth Anrhydeddus gan Brifysgol Cymru yn 2008.
Gwestai: Tony Conran
Pris: £495 (stafell sengl), £435 (rhannu stafell)
Grantiau ar gael. |