Header image  
CYRSIAU YSGRIFENNU PRESWYL  
   Ty Newydd . Llanystumdwy . Cricieth . Gwynedd LL52 0LW . 01766 522811 . post@tynewydd.org
  Mae Ty Newydd yn cydweithio â'r Academi
   
 
 
 

 
 
Cwrs Sgwennu Comedi

4ydd - 6ed Ebrill . Mei Jones a Tudur Owen Llawn!

Pris Arbennig: £90 (drwy gydweithrediad BBC Radio Cymru)

All neb eich dysgu i fod yn ddoniol.  Ond yn ystod y penwythnos yma fe gewch eich annog a'ch helpu i wneud y gorau o'ch hiwmor arbennig chi.  Trefnir y cwrs mewn cydweithrediad efo BBC Radio Cymru ac er y bydd cyfle i sgwennu comedi o bob math bydd pwyslais ar sgwennu ar gyfer radio.  Mae croeso arbennig i rai sydd eisoes yn sgwennu pethau ar gyfer eu cymuned leol ac awydd mentro ymhellach.

Mei Jones
Yn frodor o Landdona ar Ynys Môn, bu bellach yn actio, sgriptio a chyfarwyddo ers deuddeg mlynedd ar hugain.  Dechreuodd ei yrfa gyda Chwmni Theatr Cymru cyn dod yn un o aelodau cyntaf Theatr Bara Caws.  Ar y radio, bu’n rhan o dîm ‘Pupur a Halen’ ac ‘Wythnos i’w Anghofio’, ac yna fe sgriptiodd, actiodd a chyfarwyddodd dair cyfres yr un o ‘C’Mon Midffild’ ac ‘Anturiaethau Dic Preifat’.  Yn ddiweddar, fe’i gomisiynwyd i ysgrifennu drama gomedi o’r enw ‘Planed Patagonia’.

Tudur Owen
Wedi blynyddoedd mewn gwahanol swyddi yn cynnwys ymgymerwr ffensio trôdd at nosweithiau llawen yn perfformio ac ysgrifennu sgetsus a stand up.  Bu’n rhan o griw fu’n cynnal nosweithiau stand up ar hyd a lled Cymru am ymron i ddeng mlynedd.  Mae’n perfformio comedi stand up yn Saesneg yn wythnosol, yng ngogledd orllewin Lloegr yn bennaf.  Mae wedi ysgrifennu ar gyfer cyfresi teledu a radio gan gynnwys CNEX, Y Rhaglen Wirion ‘Na, Post Mortem a Bwletin.  Yn fwy diweddar mae wedi ysgrifennu a pherfformio rhaglenni sgetsus “MAWR” ar gyfer S4C â “Sioe PC Leslie Wynne”.  Enillydd gwobr “The Last Laugh” BBC 3 ar gyfer ysgrifennu comedi.  Ar hyn o bryd mae’n gweithio ar gyfres gomedi sefyllfa i S4C, ynghyd â pharatoi sioe stand up i’w pherfformio yn ngŵyl Caeredin eleni.

 

 

 
 
 
             


 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mae Ymddiriedolaeth Taliesin Cyf., sy'n rhedeg Ty Newydd, yn Gwmni Cyfyngedig trwy Warant (rhif: 2640639) gyda statws Elusen (rhif: 1004108)