Header image  
CYRSIAU YSGRIFENNU PRESWYL  
   Ty Newydd . Llanystumdwy . Cricieth . Gwynedd LL52 0LW . 01766 522811 . post@tynewydd.org
 
  Mae Ty Newydd yn cydweithio â'r Academi
  
 
 
 

 
 
Bwrsari
Nod Ymddiriedolaeth Taliesin yw galluogi'r rheiny a fyddai'n elwa o gwrs yn Nhy Newydd i wneud hynny. Felly, syfydlwyd cronfa fwrsari iroi cymorth ariannol i rai na fyddant yn gallu fforddio pris llawn cwrs. Hyn a hyn o arian sydd yn y gronfa felly nid oes sicrwydd bod pawb sy'n ceisio am fwrsari yn derbyn un. Rydym yn ymwybodol nad bod yn ddi-waith, ar gymorth incwm neu bod yn fyfyriwr llawn amser yw'r unig resymau dros fethu â fforddio pris llawn cyrsiau. Os nad ydych yn disgyn i un o'r categorïau uchod gwerthfawrogid pe baech yn nodi eich amgylchiadau a'ch rhesymau dros ymgeisio am fwrsari. Gallwch wneud hynny ar y ffurflen gais neu drwy anfon llythyr arwahân atom. Hoffem wybod hefyd pam y byddai mynychu'r cwrs o'ch dewis yn fantais i chi.

Gofynnwn i chi fod yn onest ynghylch maint y bwrsari rydych yn ei geisio. Y mwya'n byd y cymerwch chi, y lleia'n byd sydd ar ôl i bobl eraill. Rydym yn fodlon derbyn rhandaliadau dros gyfnod os yw hynny o gymorth. Dylech gysylltu ag Awen Hamilton yn Nhy Newydd. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ffoniwch Ty Newydd ar 01766 522811.

Mae Ymddiredolaeth Taliesin Cyf. yn ddiolchgar i Gyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Gwynedd, Cyngor Cymuned Llanystumdwy, Siop Lyfrau Browsers, Mark Charlton/Ymddiriedolaeth WHSmith, Cymdeithas Wilfred Owen, Mavis Carter ac aelodau o deulu Jean Earle am eu cyfraniadau i'r gronfa.

llinell
Cliciwch yma am FFURFLEN FWRSARI
llinell

 



 
 
 
             
Mae Ymddiriedolaeth Taliesin Cyf., sy'n rhedeg Ty Newydd, yn Gwmni Cyfyngedig trwy Warant (rhif: 2640639) gyda statws Elusen (rhif: 1004108)