CaerDydd a Nos - noson o gerddoriaeth a barddoniaeth ar Faes C Eisteddfod Caerdydd
CaerDydd a Nos
24 awr yn y Brifddinas
Nos Lun 4 Awst 2008, 8.00pm
Maes C Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a’r Cylch
Barddoniaeth a cherddoriaeth yng nghwmni Heather Jones, Catrin Dafydd, Gwyneth Glyn, Rhys Iorwerth ac Owain Rhys.
Ymunwch â nhw am wibdaith o amgylch Caerdydd – y doniol a’r dwys, y gwleidyddol a’r cymdeithasol, y pleser a’r poen.
24 awr mewn un noson. Peidiwch â’i cholli. Trefnir ar y cyd rhwng Tŷ Newydd a'r Academi.
Tocynnau: £8 (£6 i fyfyrwyr, pensiynwyr ac aelodau’r Academi)
Llinell docynnau: 0845 122 1176
Academi: 029 2047 2266 / Tŷ Newydd: 01766 522 811
Cynhelir MaesC mewn pabell fawr ar faes carafanau’r Eisteddfod ar gaeau chwarae Blackweir yng nghanol Caerdydd.
Bydd bar hwyr ar gael tan 2.00am.
Ceir manylion yn llawn am holl weithgareddau Maes C ar wefan Academi – www.academi.org
Yr Academi Gymreig
Tŷ Mount Stuart, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd CF10 5FQ
029 2047 2266 Ffacs
post@academi.org www.academi.org
Mae Tŷ Newydd yn gweithio mewn partneriaeth â'r Academi.
Noddir yr Academi gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Taith Gerdded gyda'r Prifardd Twm Morys
Bore Sul, 29ain Mehefin, 11 o'r gloch.
Mae pawb yn gwybod enw Llanystumdwy am mai yno y magwyd ac y claddwyd Lloyd George. Ond magwyd faint fyd fynnoch chi o gymeriadau lliwgar o fewn milltir i’r pentre. Pa wron o Gymro fu’n cadw garej yma? Beth ydi hanes y capel mwya’ anghapelaidd yr olwg yng Nghymru? Beth sydd a wnelo ffenestri’r tŷ wrth y bont â dechrau Plaid Cymru? Dewch am dro efo Twm Morys!
Dechrau o Tŷ Newydd. (Digwyddiad Dwyieithog)
Pris: £3 i oedolion, am ddim i blant.
Mewn cydweithrediad â Chwlwm Diwylliant.
-------------------------------------------------------------------------------------------------
Storm o Storïau - Prynhawn i'r Teulu Oll
Tŷ Newydd, dydd Sul, 29ain Mehefin, 2 o'r gloch
Cyfle i bawb o bob oed fwynhau prynhawn braf yng ngardd hyfryd Tŷ Newydd. Dewch i wrando ar stori neu ddwy gan Catherine Aran a Francesca Kay, mwynhau sioe bypedau, a cherddoriaeth gan Jamie Smith a Calum Stewart. Hwyl i'r teulu i gyd.
Pris: £5 yr oedolyn, mynediad am ddim i blant dan 16.
Mewn cydweithrediad â Gŵyl Cricieth a Galeri. Noddir y digwyddiad hwn gan CKInternational, a'r Dr Sam Thomas, Cartref Bryn Awelon, Cricieth.
------------------------------------------------------------------------------------------
Beirdd Plant Cymru
Mererid Hopwood a Gwyneth Glyn
Y Neuadd Goffa, prynhawn Mercher, 25ain Mehefin, 2 o'r gloch
Dyma gyfle arbennig iawn i blant ysgolion cynradd yr ardal fwynhau orig ddifyr yng nghwmni dwy o gyn Feirdd Plant Cymru.
Tocynnau: £1 i bob disgybl / £4 i bob oedolyn (ag eithrio staff yr ysgol sy'n dod gyda'r disgyblion)
Mewn cydweithrediad â Gŵyl Cricieth / Noddir y digwyddiad hwn gan CKInternational
Galeri yn cyflwyno 'Prynhawn yng nghwmni Owen Sheers'
Sadwrn, 7fed Mehefin, 2 o'r gloch, Galeri, Caernarfon.
Tocynnau: £8 / £7 / £4
T: 01286 685 222 www.galericaernarfon.com
Ganed Owen Sheers, bardd ac awdur straeon byrion yn Fiji. Fe'i fagwyd yn Abergavenny fe'i addysgwyd yn New College, Rhydychen a Phrifygol East Anglia (MA mewn ysgrifennu Creadigol). Cyhoeddwyd ei gasgliad cyntaf o farddoniaeth ym 2000. Mae eu gerddi wedi cael eu darlledu gan BBC ac wedi eu cyhoeddi yn Poetry Wales, Poetry Ireland, This Is a First Pressings (Faber a Faber). Mae ei straeon byrion wedi eu cyhoeddi yn This Is, Vogue, Neonlight 2, Time Out a New Writing (Quartet Books).
Enwyd Owen gan bapur yr Independent on Sunday yn un o'r tri deg awdur gorau ym Mhrydain. Cyrhaeddodd ei gasgliad diwethaf o gerddi Skirrid Hill restr hir Llyfr Cymraeg Y Flwyddyn 2006. Enillodd wobr Somerset Magham ym 2006. Ym mis Awst 2007 fe gwblhaodd ddehongliad drama radio o fywyd a llythyron Alun Lewis mewn cynhyrchiad Radio 4, gyfarwyddwyd gan Kate MaCall mewn darn yn dwyn y teitl If I Should Go Away. Mae ei nofel gyntaf Resistance, gyhoeddwyd yn 2007 gan Faber, nawr ar gael mewn fersiwn clawr meddal.
Yn ymddangos yn Galeri am y tro cyntaf fe gawn glywed Owen yn darllen ac yn siarad am ei waith. Bydd hefyd cyfle i'w holi.
------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
Lansio Delwedd newydd sbon Tŷ Newydd
Bu Gillian Clarke, Bardd Cenedlaethol Cymru a Llywydd Tŷ Newydd yn lansio delwedd newydd sbon Tŷ Newydd yng Ngŵyl Y Gelli am 4 o'r gloch dydd Sul, 25ain o Fai, ar stondin Llenyddiaeth yng Nghymru.
Cafwyd cyfle i wrando ar Gillian yn darllen ei gwaith, a chyfle i gael sgwrs gyda hi, Sally a'r staff am gyrsiau a datblygiadau sydd gan Dŷ Newydd ar y gweill.
Bydd Sally Baker yn bresennol yn yr ŵyl am y rhan fwyaf o'r wythnos, felly galwch i mewn i'w gweld ar stondin Llenyddiaeth yng Nghymru.
------------------------------------------------------------------------------------------
O Gwyn i Gillian: Cyhoeddi Bardd Cenedlaethol nesaf Cymru
Nos Fercher, 16eg Ebrill, Capel Moreia, Llanystumdwy am 7.30 p.m.
Academi: Digwyddiad trosglwyddo awenau Bardd Cenedlaethol, ar y cyd â Thŷ Newydd.
Noson o ddarlleniadau a sgwrsio yng nghwmni’r Bardd Cenedlaethol Gwyn Thomas wrth iddo groesawu Bardd Cenedlaethol nesaf Cymru, Gillian Clarke. Cyflwynir y beirdd gan y Dr Damian Walford Davies.
Croeso i bawb.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â’r Academi: 029 2047 2266 / post@academi.org.
http://www.academi.org/hafan/i/132255/
----------------------------------------------------------------------------------------------------
Gŵyl Tŷ Newydd 2007
Mehefin 7-10
(arianwyd gan Academi)
Fe dywynnodd yr haul – dyna’r unig beth oedd y tu hwnt i’n rheolaeth a’r un peth oedd ei angen i goroni gwyl lwyddiannus.
Roedd yr awyr agored yn rhan bwysig o’r wyl eleni. Dechreuwyd gyda noson wych yn Galeri gyda dau o’r goreuon am sgwennu am yr amgylchfyd – Jim Perrin a Robert Macfarlane, yn cael eu holi gan Mike Harding, cafwyd sgwrs am gynaladwyedd gan y bardd Robert Minhinnick, a gorffenwyd ar y dydd Sul gyda dwy daith gerdded a phnawn i’r teulu oll yng ngardd Ty Newydd . Roedd hwn yn bnawn bendigedig gyda dros 100 yma yn mwynhau y storïwr Daniel Morden gyda cherddoriaeth y grwp Newfolk, pypedau Cwmni Cortyn a chaneuon a cherddi Gwyneth Glyn.
Enillydd y gystadleuaeth newydd, Pencerdd Ty Newydd, oedd Eurig Salisbury. Roeddynt yn cael eu beirniadu ar y cerddi a’u perfformiad ohonynt ac ym marn y ddau feirniad, T. James Jones ac Idris Reynolds, Eurig oedd y gorau o 10 bardd – llawer ohonynt yn feirdd hyn a mwy profiadol. Ei wobr oedd “ffon y Pencerdd” – ffon dderw hardd wedi ei gwneud gan Elis Gwyn.
Cafwyd cinio Sul yng nghwmni’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, gwrandawyd ar Jon Gower yn holi Mererid Hopwood, Eigra Lewis Roberts ac Angharad Price, chafwyd cyfle i holi Gwen Pritchard Jones am ei nofel Dygwyl Eneidiau, sydd ar restr fer Llyfr y Flwyddyn a sawl digwyddiad arall yn y ddwy iaith.
Diolch i bawb gefnogodd yr wyl a diolch yn arbennig i’r Academi am eu cymorth ariannol ac ymarferol. Edrychwn ymlaen at yr wyl nesaf.

|