Ty Newydd
   Ty Newydd . Llanystumdwy . Cricieth . Gwynedd LL52 0LW . 01766 522811 . tynewydd@llenyddiaethcymru.org
  Mae Tŷ Newydd yn rhan o Lenyddiaeth Cymru.
   
 
 

 
Croeso

Mae Tŷ Newydd yn rhan o Lenyddiaeth Cymru.

Tŷ Newydd yw'r Ganolfan Ysgrifennu Genedlaethol ac ers 1990 mae wedi denu sgwenwyr o bob cwr o Gymru ac o bob rhan o'r byd i diwtora a mynychu cyrsiau.

Lleolir Tŷ Newydd yng nghanol llonyddwch Eifionydd. Mae'n dŷ hynafol mewn gerddi hardd gyda golygfeydd tuag at y môr, Penrhyn Llŷn a mynyddoedd Meirionnydd. Gellir dilyn llwybr o'r tŷ i'r traeth neu at lan afon Dwyfor.

Dyma gartref olaf David Lloyd George, cyn Brif Weinidog Prydain ac mae'n dŷ o ddiddordeb pensaernïol yn ogystal â hanesyddol. Mae'r tŷ gwreiddiol yn dyddio'n ôl i'r unfed ganrif ar bymtheg, a chafodd ei adnewyddu ym 40au'r ganrif ddiwethaf gan Syr Clough Williams-Ellis.

Mae'r Ganolfan yn cynnwys cyfleusterau cynhwysfawr ar gyfer yr anabl a chyfleusterau gwych ar gyfer tiwtora a dysgu.

 
Beth am logi Tŷ Newydd? - gallwch logi'r tŷ ar gyfer cynadleddau bychain, gweithdai, partïon neu aduniadau teuluol. Cliciwch yma am fanylion.
 

logo

 
 
   

CYRSIAU NEWYDD ar gyfer Rhaglen Gymraeg Tŷ Newydd, ar gael yn awr!

Cliciwch yma am fanylion pellach.

Cwrs Cyfieithu Creadigol:

Cyfieithu Llenyddiaeth i Blant, 10 - 11 o Fawrth. Cliciwch yma am fanylion pellach

 

 

CYRSIAU TRWY GYFRWNG Y SAESNEG. Rhowch glic yma i'w gweld.

 

 

 

ty newydd

Sut i gyrraedd Tŷ Newydd

 
 
 
             
Mae Ymddiriedolaeth Taliesin Cyf., sy'n rhedeg Ty Newydd, yn Gwmni Cyfyngedig trwy Warant (rhif: 2640639) gyda statws Elusen (rhif: 1004108)