|
HWYL YR WYL
Prynhawn i'r teulu oll
Prynhawn Sul, Mehefin 10fed
Ty Newydd, Llanystumdwy, 2:30 pm, £5 i oedolion, plant
am ddim (mae’r pris yn cynnwys te
bach)
Yn rhan o’r wyl eleni bydd cyfle i bawb o bob oed fwynhau prynhawn braf yng ngardd hyfryd Ty Newydd. Dewch i gael te ar y lawnt a gwrando ar stori neu ddwy gan y storïwr adnabyddus Daniel Morden, mwynhau sioe bypedau Cwmni Cortyn, a chanu a dawnsio o amgylch yr ardd yng nghwmni
Gwyneth Glyn, a’r band gwerin cyffrous, Newfolks.
Hwyl i’r teulu i gyd.
Gellir archebu tocynnau drwy glicio yma am gopi o'r ffurflen archebu.
|