Cyfieithu Creadigol:
Cyfieithu Llenyddiaeth Plant
10-11 Mawrth 2012
Tŷ Newydd: Y Ganolfan Ysgrifennu Genedlaethol
CLICIWCH YMA AR GYFER FFURFLEN GOFRESTRU
Deuddydd heriol a difyr o gyflwyniadau, trafodaethau a gwaith ymarferol yng nghwmni awduron rhyngwladol ac adnabyddus sy’n ysgrifennu llenyddiaeth i blant, ynghyd ag unigolion dylanwadol a phrofiadol o fyd cyhoeddi yng Nghymru a thu hwnt.
Tiwtoriaid y cwrs fydd y llenorion Sampurna Chattarji o Mumbai, Mererid Hopwood o Gymru a Gerður Kristný o Wlad yr Iâ. Cewch gyfle hefyd i elwa o brofiadau, Alexandra Buchler, Cyfarwyddwr Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau, Sioned Puw Rowlands, Cyfarwyddwr Cyfnewidfa Lên Cymru, a chyhoeddwr ym maes addasiadau llyfrau plant.
Cyn y cwrs bydd yr awduron yn treulio pedwar diwrnod yn Nhŷ Newydd: Y Ganolfan Ysgrifennu Genedlaethol yn cydweithio ar gyfieithu gwaith ei gilydd. Yn ystod y cwrs byddant yn rhannu llawer o’u profiadau, gan gynnwys yr heriau creadigol ac ieithyddol a wynebwyd ganddynt; gweithio trwy iaith bontio oherwydd eu diffyg adnabyddiaeth o’r iaith wreiddiol; a pha bwyntiau diddorol a gododd ynglyn â’r broses gyfieithu.
Bydd y cwrs yn gyfle i ystyried gwahanol strategaethau wrth gyfieithu llenyddiaeth i’r Gymraeg; cyfieithu trwy ieithoedd pontio a ffyrdd o ehangu’r deunydd llenyddol sydd ar gael i blant yn Gymraeg.
Er mai cyfieithu i’r Gymraeg a gaiff y sylw pennaf, bydd sawl agwedd ar y cwrs o ddiddordeb hefyd i’r rhai nad ydynt yn dymuno cyfieithu i’r Gymraeg a chynhelir nifer o sesiynau yn Saesneg oherwydd yr awduron tramor. Bydd cyfle hefyd i aelodau’r cwrs nad ydynt yn dymuno cyfieithu i’r Gymraeg gyfieithu darnau o waith Mererid Hopwood i’r Saesneg.
Does dim angen bod â diddordeb penodol mewn llenyddiaeth plant gan y bydd yr egwyddorion a drafodir yn berthnasol i faes cyfieithu llenyddol yn gyffredinol. Ni chymerir yn ganiataol chwaith fod gan yr aelodau brofiad blaenorol o gyfieithu llenyddol. Caiff cynnwys y cwrs ei addasu yn ôl profiad yr unigolion.
- Mae’r daflen hon yn cynnwys gwybodaeth ynghylch ffioedd y cwrs
a sut i archebu lle. Mae yma hefyd bwt o wybodaeth am bob awdur
a drafft o’r rhaglen arfaethedig.
Gwaith paratoi
Rai dyddiau cyn y cwrs caiff darnau byr o waith yr awduron tramor (yn Saesneg ac yn yr ieithoedd gwreiddiol) eu hanfon atoch i’w cyfieithu cyn i chi ddod i Lanystumdwy. Cewch gyfle wedyn yn ystod y deuddydd i gydweithio’n agos â’r awduron a mynd ati mewn grwpiau bychain i gymharu strategaethau cyfieithu.
Dechrau a gorffen
Bydd y cwrs yn dechrau gyda chinio am 12.30 brynhawn dydd Sadwrn, 10 Mawrth, ac yn dod i ben ar ôl cinio ddydd Sul.
Aros yn Nhŷ Newydd
Os hoffech chi aros yn Nhŷ Newydd nos Sadwrn, cewch aros mewn stafell sengl neu rannu stafell. Gan fod nifer y llefydd yn gyfyngedig, gorau po gyntaf y gwnewch chi archebu lle.
Archebu lle, ffioedd y cwrs a thalu
Ffioedd y cwrs yw:
£110 - preswyl, stafell sengl (£95 i aelodau Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru)
£85 - preswyl, rhannu stafell (£70 i aelodau Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru)
£75 - dibreswyl (£60 i aelodau Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru)
I archebu lle ar y cwrs, llenwch y ffurflen gofrestru a dychwelwch hi i Dŷ Newydd.
Gallwch ei hanfon trwy e-bost i: post@tynewydd.org neu mewn amlen â stamp i:
Tŷ Newydd, Llanystumdwy, Cricieth, LL52 0LW. Rhif ffôn Tŷ Newydd: 01766 522811.
Y dyddiad olaf i gofrestru yw 17 Chwefror 2012.
Rhagor o wybodaeth
I gael gwybod rhagor am y cwrs, bydd croeso i chi gysylltu â Sioned Puw Rowlands trwy’r e-bost sioned@cyfnewidfalen.org neu trwy ffonio +44 (0)7966 338606.
CLICIWCH YMA AR GYFER FFURFLEN GOFRESTRU
|