Ty Newydd
   Ty Newydd . Llanystumdwy . Cricieth . Gwynedd LL52 0LW . 01766 522811 . post@tynewydd.org
  Mae Ty Newydd yn cydweithio â'r Academi
   
 
 
 

 
Cyfieithu Creadigol - Rhyddiaith

Hydref 30ain ac 31ain

gyda Gwen Davies, Caryl Lewis, Sioned Puw Rowlands a Gareth Miles

Trowch ddalen newydd a datblygwch eich doniau cyfieithu rhyddiaith i’r Gymraeg ac o’r Gymraeg. Dewch i fwynhau deuddydd anffurfiol ond heriol fydd yn codi cwr y llen ar gyfieithu llenyddol.

Bydd y cwrs yn gyfuniad o gyflwyniadau i gyfieithu llenyddol a sesiynau ymarferol fydd yn trafod cyfieithiadau byr a osodwyd yn waith cartref i aelodau'r cwrs o flaen llaw.

Ymhlith y tiwtoriaid bydd: Gwen Davies, Caryl Lewis, Sioned Puw Rowlands a Gareth Miles.

Bydd y cwrs yn dechrau am 2.00 brynhawn ddydd Sadwrn ac yn dod i ben ar ôl cinio ddydd Sul.

Bydd ystafell sengl ar gael i bawb, a’r mwyafrif ohonynt yn ensuite.

Fel rhan o’r penwythnos bydd Caryl Lewis a Gwen Davies yn trafod y profiad o gyfieithu'r Gemydd i'r Saesneg, ac yn darllen darnau ohono, yn Amgueddfa Lloyd George, Llanystumdwy, am 8.00 ar y nos Sadwrn. Bydd croeso cynnes i’r cyhoedd ymuno â hwn.

Trefnir y cwrs gan Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru, a noddir gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg; a Thŷ Cyfieithu Cymru, sef menter ar y cyd rhwng Cyfnewidfa Lên Cymru a Thŷ Newydd, sy’n gweithio mewn partneriaeth â’r Academi, HALMA a Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau.

 
Pris y cwrs: £100 (preswyl); £75 (dibreswyl).
Telerau arbennig ar gyfer aelodau Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru:£85 (preswyl); £65 (dibreswyl)
 
 
 
             


 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mae Ymddiriedolaeth Taliesin Cyf., sy'n rhedeg Ty Newydd, yn Gwmni Cyfyngedig trwy Warant (rhif: 2640639) gyda statws Elusen (rhif: 1004108)