Ionawr 28 - 30
gyda Mererid Hopwood a Tudur Dylan Jones
Cwrs i ddatblygu’ch sgiliau sgwennu
Beth am wneud adduned blwyddyn newydd?
Creu cerdd neu ddarn o ryddiaith!
Dyma gyfle i gyfaddef fod 'na linellau gennych chi'n llechu yng ngwaelod y drâr neu yng nghefn y meddwl, neu gyfle hyd yn oed i ddatgan y byddai hi'n dda gennych chi wybod lle mae dechrau arni. Nod y cwrs hwn yw rhoi sylw i elfennau barddoniaeth a rhyddiaith. Cewch gyfle i gymryd rhan mewn gweithdai ffurfiol ac anffurfiol, a chyfle i holi, darllen a gwrando mewn grwpiau llawn neu sesiynau un am un. Bydd cyfle i chi gael llonydd llwyr i gyfansoddi. Os byddwch wedi mwynhau, bydd y cwrs wedi llwyddo!
Tudur Dylan Jones

Prifardd ac enillydd y Goron yn Eisteddfod Sir y Fflint 2007. Enillodd y Gadair yn Eisteddfod Bro Colwyn yn 1995 pan oedd ei dad, y Prifardd John Gwilym yn archdderwydd, ac yn Eisteddfod Eryri a'r Cyffiniau yn 2005. Ef yw meuryn Ymryson y Beirdd a gynhelir yn y Babell Lên yn ystod wythnos yr Eisteddfod. Aeth i'r Brifysgol ym Mangor ac y mae erbyn hyn yn athro yn Ysgol Gyfun y Strade, Llanelli. Ef oedd Bardd Plant Cymru 2004-2005
Mererid Hopwood

Mae'r Prifardd Mererid Hopwood yn gweithio fel awdur a darlithydd ar ei liwt ei hun. Yn 2001 enillodd Gadair Eisteddfod Dinbych a’r cylch am ei hawdl "Dadeni" – y ferch gyntaf erioed i gyflawni’r fath gamp. Enillodd Goron yr Eisteddfod yn 2003. Mae’n aelod o fwrdd Barddas ac yn frwd o blaid poblogeiddio’r cynganeddion, yn arbennig ymhlith merched a phobl ifainc. Hi oedd Bardd Plant Cymru 2005. Fe enillodd Mererid Fedal Ryddiaith Eisteddfod Caerdydd a’r Cylch 2008 gyda’i nofel O Ran. Hi yw’r ferch gyntaf i ennill y Gadair, y Goron a’r Fedal Ryddiath.
|