Mai 21
gydag Eurig Salisbury a Twm Elias
Sesiwn Sadwrn: Yr Athro Gwyn Thomas
“Gwn ei ddyfod …” meddai Eifion Wyn am fis Mai a fydd hi ddim yn hir cyn y byddwn ynghanol mis y mêl. Ar dydd Sadwrn 21ain o Fai fe fyddwn yn cynnal cynhadledd un-dydd yma ar y cyd efo Parc Cenedlaethol Eryri sef ‘Testun a Thirlun’.
Bydd Twm Elias yn arwain taith gerdded ar hyd afon Dwyfor yn y bore, ac Eurig Salisbury yn cynnal gweithdy ysgrifennu yn y prynhawn. I goroni’r cyfan, bydd Gwyn Thomas yn darlithio ar ‘Y Llenor a’r Byd o’i Gwmpas’ yn Amgueddfa Lloyd George am 8 o’r gloch yr hwyr. Bydd y ddarlith yma yn agored i’r cyhoedd a £3 y pen fydd y tal mynediad.
Dyma ddiwrnod difyr tu hwnt a chost y cyfan, gan gynnwys cinio ysgafn a swper cyn y ddarlith, fydd £50 y pen. Mae’n sicr o fod yn boblogaidd felly’r cyntaf i’r felin piau hi. Sicrhewch eich lle trwy ffonio 01766 522811. Cysylltwch rwan!!!
Noddir y cwrs hwn gan Barc Cenedlaethol Eryri.
|