Rhagfyr 3 - 5
gyda Dr Angharad Price
Mae’r cwrs yma yn cynnig cyfle i’r rhai sydd â diddordeb yn y stori fer i ddatblygu eu syniadau a’u gallu i drin y cyfrwng mewn cyd-destun cyfoes - gyda’r gobaith o adfywio’r grefft. Bydd cyfle i’r mynychwyr gyflwyno deunydd i’w ystyried ar gyfer ei gyhoeddi yn Taliesin. Mae cost y cwrs hefyd yn cynnwys cyfle i wrando ar Harri Parri yn cynnal sesiwn ‘gair o brofiad ‘ am y stori fer ar nos Sadwrn y 4ydd o Ragfyr.
‘Croeso i bawb sydd â syniad ar gyfer stori fer – ynghyd â’r awydd i’w ddatblygu! Mewn grwpiau ac yn unigol bydd cyfle i’r mynychwyr drafod eu gwaith gyda mi. Byddwn hefyd yn edrych ar grefft y stori fer trwy ddarllen a thrafod storïau gan awduron nodedig o Gymru a’r byd.’
Cyfyngir y nifer ar y cwrs hwn.
Angharad Price

Dr Angharad Price, Uwch-Ddarlithydd o Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor fydd y tiwtor. Rhyddiaith y cyfnod modern yw ei phrif ddiddordeb ymchwil ond mae hefyd yn llenor creadigol. Cyhoeddodd stori fer hir o’r enw Tania’r Tacsi yn 1999. Yn 2002 enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi gyda’r nofel O! Tyn y Gorchudd, cyfrol a enwyd yn Llyfr y Flwyddyn 2003. Yn 2010 cyhoeddodd Angharad ei thrydedd gyfrol, Caersaint, nofel gyfoes a ysbrydolwyd gan dref Caernarfon.
|