Ty Newydd
   Ty Newydd . Llanystumdwy . Cricieth . Gwynedd LL52 0LW . 01766 522811 . post@tynewydd.org
  Mae Ty Newydd yn cydweithio â'r Academi
   
 
 
 

 
Sgwennu Stori Fer

Ebrill 29 - Mai 1

Tiwtoriaid: Fflur Dafydd a Jon Gower

Yn syml - cwrs sgwennu straeon byrion

Caiff pob aelod o’r cwrs gyfle i ddatblygu syniadau a straeon hen a newydd a chael adborth gan ddau sy’n feistri ar y grefft o ysgrifennu straeon byrion cyfoes.

 

Fflur Dafydd

 

 

Nofelydd, academydd a cherddor o Gaerfyrddin. Cafodd ei nofel gyntaf Lliwiau Liw Nos ei chyhoeddi yn 2005 ac enillodd ei hail nofel, Atyniad, Fedal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol 2006. Cyrhaeddodd Fflur y brig unwaith eto yn Eisteddfod Genedlaethol Meirion a'r Cyffiniau pan enillodd Wobr Goffa Daniel Owen am ei nofel, Y Llyfrgell. Er hyn mae’n disgrifio’r stori fer fel ei “chariad cyntaf” – enillodd wobr am stori fer yn Eisteddfod Genedlaethol 2004 a chynrychiolodd Cymru yng Ngwŷl y Stori Fer yn Croatia. “Mae hi’n ffurf sy’n llawn posibiliadau, ac yn rhoi rhyddid i awdur i arbrofi gyda thechnegau a lleisiau gwahanol, gan ddefnyddio abswrdiaeth a dychan, a chreu sefyllfaoedd mwy anarferol na fyddech chi’n ei ffeindio mewn nofel, a herio’r darllenydd ychydig yn fwy”

Jon Gower

Cafodd ei fagu yn Pwll, Llanelli a derbyniodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg y Bechgyn yno. Graddiodd mewn Saesneg yn Nghaergrawnt ac ers chwarter canrif mae wedi bod yn gweithio yn y cyfryngau. Ef oedd gohebydd celfyddydau a'r cyfryngau i BBC Cymru rhwng 2000 - 2006. Mae wedi cyhoeddi naw llyfr gan gynnwys An Island Called Smith, enillydd gwobr John Morgan. “Bydd cyd-diwtora ’da Fflur yn bleser pur,” medd Jon.  “Dwi wrth fy modd efo ffurf y stori fer ac yn bwriadu cyhoeddi dwy gyfrol o straeon byrion yn 2012 (yn y ddwy iaith) yn ogystal â threfnu fersiwn Cymraeg o 'Finbar's Hotel' sef cadwyn o straeon byrion gan amryw awduron fydd yn dod mas ar gyfer Steddfod 2012.” 
Prisiau: £225 (ystafell sengl), £200 (rhannu ystafell),
£150 (Di-breswyl), Myfyrwyr: £100
 
 
 
             


 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mae Ymddiriedolaeth Taliesin Cyf., sy'n rhedeg Ty Newydd, yn Gwmni Cyfyngedig trwy Warant (rhif: 2640639) gyda statws Elusen (rhif: 1004108)