Ty Newydd
   Ty Newydd . Llanystumdwy . Cricieth . Gwynedd LL52 0LW . 01766 522811 . post@tynewydd.org
  Mae Ty Newydd yn cydweithio â'r Academi
   
 
 
 

 
Barn a Bwyd - Eto

Ebrill 16-17

Tiwtor: John Rowlands

Cynhaliwyd y cwrs cyntaf yn y maes poblogaidd yma ym mis Tachwedd 2010. Bu’n hynod llwyddianus gan ddenu pobl sy’n mwynhau bwyd, a phobl sy’n gweithio efo bwyd fel ei gilydd. Y tro yma, bydd rhagor o bwyslais ar ysgrifennu mewn sawl dull a modd ac ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd gan dalu sylw penodol i ehangu’r eirfa wrth ddisgrifio bwyd a’r profiad o fwyta. Uchafbwynt y cwrs fydd adolygu pryd o fwyd yng Nghastell Deudraeth, Portmeirion.

Noddir y cwrs hwn gan Portmeirion

John Rowlands

 

 

 

 

Nofelydd a beirniad llenyddol. Brodor o Drawsfynydd a addysgwyd yn Ysgol Sir Ffestiniog, Coleg y Brifysgol Bangor a Choleg yr Iesu, Rhydychen. Ar ôl dal swyddi yn Abertawe, Caerfyrddin a Llanbedr Pont Steffan bu’n Athro yn Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth. Bellach y mae’n Athro Emeritws ym Mhrifysgol Cymru, ac yn Athro er Anrhydedd ym Mhrifysgol Cymru Bangor. Y mae hefyd yn Gymrawd yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin. Cyhoeddodd saith nofel ac amryw astudiaethau beirniadol. Enillodd Wobr Cyngor y Celfyddydau yn 1979. Ef yw golygydd cyffredinol y gyfres ’Y Meddwl a’r Dychymyg Cymreig’ (Gwasg Prifysgol Cymru). Gyda Menna Elfyn, golygodd The Bloodaxe Book of Modern Welsh Poetry (Bloodaxe Books, 2003). Mae John a’i wraig, Eluned, hefyd yn cynnig gwely a brecwast yn eu cartref yn y Goeden Eirin gyda chroeso personol i ymwelwyr o bedwar ban byd.

Prisiau: Preswyl: £130 (ystafell sengl); £110 (rhannu ystafell); Di-breswyl: £80
 
 
 
             


 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mae Ymddiriedolaeth Taliesin Cyf., sy'n rhedeg Ty Newydd, yn Gwmni Cyfyngedig trwy Warant (rhif: 2640639) gyda statws Elusen (rhif: 1004108)