Ty Newydd
   Ty Newydd . Llanystumdwy . Cricieth . Gwynedd LL52 0LW . 01766 522811 . post@tynewydd.org
  Mae Ty Newydd yn cydweithio â'r Academi
   
 
 
 
 

 

Academi

www.academi.org

Yr Academi Gymreig yw’r Asiantaeth Genedlaethol er Hyrwyddo Llenyddiaeth a Chymdeithas Llenorion Cymru.

Mae’r Academi yn cynnal cystadlaethau, cyrsiau, cynadleddau, stompiau, gornestau beirdd v rapwyr, teithiau gan awduron, digwyddiadau Maes C, darlleniadau, gwyliau a nifer fawr eraill.  Mae'r Academi yn gyfrifol am Wasanaethau i Awduron, sydd yn cynnwys ysgoloriaethau, cynllun mentora awduron, cyngor beirniadol a gwobr flynyddol Llyfr y Flwyddyn. Yr Academi sydd hefyd yn gyfrifol am brosiectau Bardd Cenedlaethol a Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig, ac yn ymwneud â chynllun Bardd Plant Cymru.

Yn ogystal, mae gan yr Academi dri chynllun ariannu a all gynnig cymorth tuag at weithdai llenyddol, darlithoedd, darlleniadau, cynadleddau, stompiau, nosweithiau cerdd a chwrw ac yn wir unrhyw ddigwyddiad yn ymwneud ag arfer, hyrwyddo, gwerthfawrogi neu ddatblygu ysgrifennu creadigol.

Cysylltwch â’r Academi:
post@academi.org
029 2047 2266
www.academi.org


 

 

 
   

 

 
       
Mae Ymddiriedolaeth Taliesin Cyf., sy'n rhedeg Ty Newydd, yn Gwmni Cyfyngedig trwy Warant (rhif: 2640639) gyda statws Elusen (rhif: 1004108)