Ty Newydd
   Ty Newydd . Llanystumdwy . Cricieth . Gwynedd LL52 0LW . 01766 522811 . post@tynewydd.org
  Mae Ty Newydd yn cydweithio â'r Academi
   
 
 
 
 

 

'21'

Tŷ Newydd yn dathlu 21 mlynedd fel y Ganolfan Ysgrifennu Genedlaethol

 

Ymunwch â ni wrth i ni edrych yn ôl a dathlu 21ain fel Y Ganolfan Ysgrifennu Genedlaethol,
ac edrych ymlaen i gyfnod newydd o weithgaredd llenyddol deinamig.

Sadwrn 4ydd a Sul 5ed o Fedi
yn Nhŷ Newydd, Llanystumdwy

Llenyddiaeth, cerddoriaeth, barddoniaeth, bar, bwyd, cwmni da
…a llawer o hwyl.

 

 

Dydd Sadwrn, 4ydd Medi

 

1.30

 

Cychwyn y dathliadau
Gillian Clarke, Llywydd Tŷ Newydd ac Arwel Jones, Cadeirydd Bwrdd Rheoli Ymddiriedolaeth Taliesin.
 

2.00

 

Y Beirdd Llawryfog
Gillian Clarke, Carol Ann Duffy a Mererid Hopwood.
 

3.00

 

 

 

 

Tŷ Cyfieithu Cymru yn cyflwyno

Gillian Clarke a Menna Elfyn yn darllen a thrafod cyfieithiadau o farddoniaeth ei gilydd.

Barddoniaeth Gymraeg a Phanjabi: Menna Elfyn a Mazhar Tirmazi y bardd Panjabi, sy’n enedigol o Bacistan, yn darllen a thrafod eu barddoniaeth.

Gwobrwyo enillydd cystadleuaeth Saesneg Her Gyfieithu Tŷ Cyfieithu Oxfam 2010.

  4.00 Te
 

4.30

 

Cynghanedd
Karen Owen fydd yn gofyn wrth bum cenhedlaeth o feirdd Cymraeg beth sydd wedi eu hysbrydoli nhw i sgwennu mewn cynghanedd. (cyfieithu ar y pryd ar gael).
  6.00 Lansiad ‘The Listening Shell’
Antholeg o farddoniaeth i Dŷ Newydd.
  8.30 Pluo’r Awen
Cynan Jones yw’r Meuryn sy’n ceisio cadw trefn ar ddau dîm wrth iddynt geisio pluo’r awen.

Dydd Sul, 5ed Medi

 

9.15

 

Gwyfynod a Ffyngau
Nigel Brown sy’n darganfod pa fath o wyfynod sydd wedi’u dal yn y trapiau dros nos.  Dilynir hyn gyda lansiad cystadleuaeth ysgrifennu Natur Cymru - ‘Natur yn Ysbrydoli’.
  10.00 Taith Natur (Saesneg) gyda Nigel Brown, neu
Cyrch Ffyngau (Cymraeg) gyda Cynan Jones
  12.00 Ysgrifennu am y Tirlun
Jim Perrin a Niall Griffiths yn darllen a thrafod eu gwaith.
  12.00 'Fy Lôn Wen I’
5 cyflwyniad personol mewn barddoniaeth, rhyddiaith, cerddoriaeth a chân i goffáu 25 mlynedd ers y bu farw’r Dr Kate Roberts, ‘Brenhines ein Llên’.
  1.00 Cinio ysgafn a chloi

 

Tocynnau:

Tocyn Dydd Sadwrn - £10 (i gynnwys holl ddigwyddiadau dydd Sadwrn, a'r te)

Tocyn Bore Sul - £5 (i gynnwys holl ddigwyddiadau fore Sul)

Tocyn Bwyd - £8.50 am y cinio ysgafn ddydd Sul

I archebu tocynnau, neu am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: Tŷ Newydd, Llanystumdwy, Cricieth LL52 0LW
01766 522811 post@tynewydd.org 

 

Cefnogwyd gan Academi


 

 

 
   

 

 
       
Mae Ymddiriedolaeth Taliesin Cyf., sy'n rhedeg Ty Newydd, yn Gwmni Cyfyngedig trwy Warant (rhif: 2640639) gyda statws Elusen (rhif: 1004108)